Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care Committee
|
|
Cyfarwyddwyr Cyllid, Byrddau Iechyd yng Nghymru
|
|
1 Mehefin 2012 |
Annwyl
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru: craffu ariannol
Fel y gwyddoch, o bosibl, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth Cymru.
Er mwyn llywio ein trafodaethau ar faterion ariannol yn y dyfodol sy’n rhan o’n cylch gwaith, ac i sicrhau bod ein gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru yn effeithiol a chadarn, ysgrifennaf at bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru i ofyn am gymorth i lywio ein gwaith yn y maes hwn. Rwyf ar ddeall bod gan bob bwrdd iechyd lleol y wybodaeth hon eisoes ac felly ni ddylai fod angen iddynt gasglu data pellach.
Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn parhau i gynnal dealltwriaeth ddigonol o sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru sy’n ddisgwyliedig ohonom, ac i helpu i sicrhau bod ein hystyriaethau yn wybodus a chywir, byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon y wybodaeth ganlynol atom:
- manylion am eich dyraniadau refeniw a chyfalaf gwreiddiol o Lywodraeth Cymru ar gyfer blynyddoedd ariannol 2011-12 a 2012-13;
- copïau o’ch cynlluniau ariannol (refeniw a chyfalaf), gan gynnwys manylion am arbedion i’w cyflawni, ac o ba wasanaethau, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2011-12 a 2012-13;
- manylion am unrhyw gyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ariannol 2011-12 gan Lywodraeth Cymru, a’r diben y cafodd ei ddarparu;
- gwybodaeth am sefyllfa ariannol diwedd y flwyddyn ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12, a manylion cynnydd yn erbyn y cynlluniau ariannol a’r targedau arbed ym mhob gwasanaeth; a
- gwybodaeth am sut mae cynllunio ariannol a’r rheidrwydd i wneud arbedion wedi effeithio ar eich gallu i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau polisi a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac enghreifftiau o hynny.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan a byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon y wybodaeth y gofynnwyd amdani erbyn dydd Llun 25 Mehefin 2012. Anfonwyd copi o’r llythyr hwn at Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd, er gwybodaeth.
Yn gywir
Mark Drakeford AC
Cadeirydd
Cc, Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd